Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Rhagfyr 2020
Amser:
09.00 -
12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6603
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Angela Burns AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS Llyr Gruffydd AS |
Tystion: |
Tim Buckle, Archwilio Cymru Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock, Archwilio Cymru Ryland Jones, Sustrans Cymru Matthew Kennedy, Y Sefydliad Tai Siartredig Jess McQuade, WWF Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Gwaith ar Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad
1.1 Trafododd yr Aelodau grynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
3 Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
4 Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 2
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF Cymru), Sustrans Cymru a'r Sefydliad Tai Siartredig fel rhan o'r ymchwiliad i'r Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
5 Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2019-20
5.1 Nodwyd adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2019-20.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.